![](https://www.clybiauplantcymru.org/cy/wp-content/uploads/sites/2/2022/12/correct-featured-image-size-template-for-News-e1665060333475.png)
27.04.2023 |
Bwrsariaeth CYMell
Mae cymwysterau gwaith chwarae yn gwella gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau chwarae’r plant yn eich gofal.
Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau o’u staff sy’n mynychu cyrsiau cymhwyso mewn Gwaith Chwarae a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg, drwy ariannu prosiect CYMell.
Telir y fwrsariaeth i’r lleoliad y mae ei staff yn mynychu hyfforddiant y tu allan i’w horiau gwaith neu i dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw hynny o fewn oriau gwaith.
I gael gwybod mwy am y cymwysterau sydd ar gael, cwblhewch Ddatganiad o Ddiddordeb a daw aelod o’r tîm i gysylltiad â chi