01.03.2024 |
Cyfle cyffrous yng Nghastell-nedd Port Talbot
*Yn amodol ar Gymeradwyaeth CBS Castell-nedd Port Talbot*
Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru, Bryncoch
Mae Timau’r Blynyddoedd Cynar a’r Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Bryncoch, yn awyddus iawn i gael mynegiannau o ddiddordeb gan ddarparydd gofal plant profiadol i redeg Clwb Ôl-ysgol yn yr ysgol.
Gellir cofrestru’r ystafell gofal plant am tua. 30 Plant 3-11 oed, gellir datgelu costau rhent manwl sy’n daladwy yn unol â chytundeb prydlesu ar gais.
Bydd disgwyl i’r darparwr gofal plant llwyddiannus:
Ddarparu Gofal Plant o ansawdd uchel
Bod wedi’i cofrestru ag AGC
Darparu lleoedd Cynnig Gofal Plant ac O Gam i Gam
Gweithio’n agos gyda’r ysgol a’r Llywodraethwyr
Bod yn cynnig darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau
Bod yn ymrwymedig i ddechrau cyflwyno o Ionawr/Chwefror 2024
Rydym yn chwilio am ddarparwyr a all ddangos bod ganddynt:
Brofiad o redeg darpariaethau gofal plant tebyg
Adroddiadau arolygu AGC boddhaol neu uwch
Cyfrifon ariannol cadarn
Ethos o ddarparu gofal plant safonol, hygyrch a fforddiadwy
Strwythur rheoli cryf ac effeithiol
Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu gofal plant bro gyfan.
Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Michelle Jenkins – Swyddog Datblygu Gofal Plant Cynorthwyol y Blynyddoedd Cynnar m.jenkins4@npt.gov.uk
Gellir e-bostio mynegiannnau at Michelle Jenkins – Swyddog Datblygu Gofal Plant Cynorthwyol y Blynyddoedd Cynnar m.jenkins4@npt.gov.uk
Y dyddiad i geisiadau yw (21.03.2024)