04.12.2024 |
Arolwg Cenedlaethol i Glybiau 2024
Rydym eisiau clywed barn uniongyrchol Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sy’n cefnogi plant a theuluoedd mewn cymunedau o ddydd i ddydd. Rydym yn gofyn i bob Clwb ar draws Cymru gwblhau ein Harolwg Clybiau Cenedlaethol 2024 fel y gallwn gynrychioli a chefnogi’r sector mewn ffyrdd ymarferol a strategol ledled Cymru.
Gyda’ch ymatebion chi gallwn ddarparu llais unedig i gyfleu eich gwerth a’ch cryfderau, a hefyd eich heriau a’ch anghenion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel ledled Cymru. Bydd eich mewnbwn hefyd yn siapio ein strategaeth a’n cefnogaeth i’r sector a Chlybiau unigol.
Wrth ymateb i’n harolwg byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig mewn lotri wobrau a ran eich Clwb All-Ysgol. (Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap pan ddaw’r arolwg i ben).
Gofynnir ichi ei gwblhau yma yma erbyn 31 Ionawr 2025.