Disgrifiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn edrych y mlaen at rannu ein llwyddiannau a’n heffeithiau, ynghyd â chipolwg o’r hyn sydd i ddod yn y flwyddyn o’n blaenau.
Hoffem eich gwahod i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Rhithiol, a fydd yn digwydd trwy dechnoleg Zoom.
Byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni am adolygiad o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd i ddefnyddio eich hawliau pleidleisio.
Os na allwch ddod, gofynnwn i chi ymarfer eich hawl i bleidleisio drwy gwblhau pleidlais ddirprwyol ar-lein. Mae hyn yn rhoi caniatâd i rywun (y Cadeirydd neu aelod o’r staff) bleidleisio ar eich rhan. Er mwyn i’n CCB fod â chworwm, mae arnom angen o leiaf 10% o’n haelodaeth i bleidleisio, felly gofynnwn i chi ein helpu i ateb ein rhwymedigaethau cyfreithiol drwy bleidleisio.