Disgrifiad
I gydnabod a dathlu rôl werthfawr Gweithwyr Chwarae, Gwirfoddolwyr a Rheolwyr yn cefnogi plant i chwarae a theuluoedd i ffynnu, croesawn chi i’n
O Cynhadledd Gofal Plant Allysgol a Seremoni Wobrwyo 2023
Ddydd Mercher Chwefror 8fed (ar-lein) 1845-2100
Bydd enwau enillwyr mewn 9 categori yn cael eu cyhoeddi a’u gwobrwyo, a dathlir y rhai a fydd wedi ennill cymwysterau mewn Gwaith Chwarae.
Disgwylir i’r digwyddiad rhithiol hwn fod yn noson llawn gwybodaeth gan arweinwyr amrywiol, allweddol sy’n gysylltiedig â’r sector, a cheir dathlu a chyfleoedd i gysylltu trwy ffrydio i stafelloedd byw a swyddfeydd ledled Cymru.
Hoffem yn fawr petaech yn ymuno â ni.
Yng Nghynhadledd a Seremoni Wobrwyo Allysgol 2023 byddwn yn croesawu’r siaradwyr gwadd, Nicola Edwards (Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru), Dawn Duffy (Rheolwr Tîm – Cofrestru, Arolygiaeth Gofal Cymru) a Chantelle Haughton (Cyfarwyddwr, Amrywedd a Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol, DARPL)/Claire Severn, (Pennaeth adran Plentyndod Cynnar, Addysg a Gofal, Llywodraeth Cymru).
Hoffem roi cyfle i chi roi eich cwestiynau gerbron yn awr, er mwyn rhoi sylw iddynt ar y noson.
Cyflwynwch eich cwestiynau yma os gwelwch yn dda.