Disgrifiad
Mae hwn yn gwrs cyflwyno ardderchog i Waith Chwarae, yn cynnwys cymysgedd da o wybodaeth ymarferol a gwybodaeth yn seiliedig ar ddamcaniaeth.
Nid oes gofynion o ran mynediad i’r cymhwyster cyhyd â’ch bod dros 16 blwydd oed.
Y Dyfarniad hwn yw’r cymhwyster ar lefel mynediad er mwyn symud ymlaen at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwaith Chwarae: O Egwyddorion i Arferion
Mae’r cwrs hwn ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal plant ym Mro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy.
I bwrpasau ariannu bydd angen i chi roi’r mathau canlynol o fodd adnabod.
Prawf o’ch hawl i fyw a gweithio yn y DU
Prawf o’ch Cyfeiriad
Prawf o’ch Oed
Prawf o’ch Cyflogaeth
30ain Mai & 31ain Mai. 1000-1600. Casnewydd.
Ar-lein- 7 Mehefin, 14 Mehefin, 21 Mehefin & 28 Mehefin 1830-1930