Disgrifiad
Eisiau bod yn rhan o yrru’r sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru yn ei flaen? Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr heddiw!
Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu, ac â phrofiad o Ofal Plant All-Ysgol, byddai’n dda iawn gennym glywed gennych.
Rydym ar hyn o bryd yn derbyn enwebiadau ar gyfer aelodau newydd o’n Bwrdd. Bydd eich cyfraniad chi’n cryfhau ac yn ategu at sgiliau’r Bwrdd presennol, gan ein helpu i gyrraedd ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth, a chan godi ein proffil ymysg cynulleidfa ehangach.
Ymunwch â ni am sgwrs anffurfiol, dowch i gyfarfod â’n hymddiriedolwyr presennol, gofynnwch inni unrhyw gwestiwn sydd gennych a dowch i wybod sut y gallwch gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol.
Cewch wybod mwy yma ( https://www.clybiauplantcymru.org/blog/join-our-board-of-trustees/)
Ar-lein 11/09/2024 6.30yh – 7.30yh