Disgrifiad
Yn agored i bob dysgwr a lleoliad sy’n aelod fwynhau sesiwn Gwaith Chwarae Ymaraferol hwyliog ac ymgysylltiol, Dydd Sadwrn Mehefin 24fed , 10yb – 1yh.
Dowch i rwydweithio, chwarae gemau, rhoi cynnig ar ambell i sgil Gwaith Chwarae a chael hwyl.
Bydd hefyd ddigon o gyfleoedd i rannu eich arferion a myfyrio gyda gweithwyr chwarae eraill.
Bydd cyfyngiad ar niferoedd, felly archebwch eich lle yn awr i osgoi cael eich siomi.
Meini prawf cymhwyster – Prentisiaid yn unig ac Aelodau yn unig.