
28.10.2022
Cysylltu a Chefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol a Chymunedau
Trwy ein Prosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Lotri Genedlaethol, ‘Cysylltu a Chefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol a Chymunedau’, gall 3 Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Rhanbarthol ledled Cymru gefnogi Clybiau yn y ffyrdd canlynol:
- datblygu cynlluniau gweithredu unigol o asesiadau ansawdd er mwyn adeiladu ar gryfderau:
- darparu cefnogaeth barhaus i fusnesau gofal plant er mwyn gwella llywodraethiad a sgiliau busnes;
- cymorth i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chynlluniau sy’n gwella fforddiadwyedd, megis Y Cynnig Gofal Plant a Gofal Plant Di-dreth;
- cyflenwi digwyddiadau rhwydwaith rhanbarthol, a chlybiau’n datblygu’r fformat a’r cynnwys;
- cydweithio ag eraill sy’n cynrychioli ac yn cefnogi’r sector er mwyn sicrhau cyngor cywir.
Dywedodd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:
“Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Lotri Genedlaethol am y dyfarniad o grant, ac wrth gwrs ddiolch hefyd i’r cyhoedd sy’n chwarae’r Lotri bob wythnos; hebddynt, ni fyddai’r ariannu hwn, na’r prosiect yn ei sgil, wedi bod yn bosibl.
Trwy’r prosiect hwn ceisiwn gefnogi clybiau drwy ymweliadau wyneb yn wyneb a mentora mewn sgiliau busnes, gan helpu i wella ansawdd y chwarae a’r gofal a ddarperir mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol drwy: uwchsgilio Gweithwyr Chwarae a Rheolwyr, rhoi gwell mynediad i ddarpariaethau gofal a chwarae, sicrhau bod Clybiau wedi eu cofrestru â chynlluniau’r Llywodraeth, sy’n hwyluso fforddiadwyedd ac yn sicrhau, ar raddfa eang, ofal plant mwy cynaliadwy, â llywodraethiad da, a pharhad yn y gofal a roddir i blant.”
Astudiaethau achos
Cysylltwch â’n Swyddfeydd Rhanbarthol â’ch awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio yr hoffech eu mynychu, neu os hoffech wybodaeth ychwanegol.
Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Cross Hands: 01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org
