Fy Hawliau i yn fy Nghlwb Allysgol i

Mae gan bob plentyn hawliau a warchodir gan y gyfraith. Yma yng Nghlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs byddwn yn rhannu offer ac adnoddau i helpu eich lleoliad i hyrwyddo Hawliau Plant a’u rôl yn llywodraethu eich lleoliad gan ddefnyddio dull hawl y mis Comisiynydd Plant Cymru.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys 54 o Erthyglau sy’n ymdrin â phob agwedd ar fywyd plentyn ac yn nodi’r hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sydd gan bob plentyn ym mhobman hawl iddynt.

Defnyddiwch ein hofferynnau ac adnoddau newydd i drafod yr hawliau hyn gyda phlant a sut y gellir eu cefnogi yng nghyd-destun eich clwb.


Erthygl 14: I Ddilyn fy Nghrefydd fy Hun

Erthygl 24: Bwyd, Dŵr, Iechyd, a Gofal Iechyd Da

Erthygl 27: Tŷ, bwyd a dillad iawn

Erthygl 29: I fod y gorau a allai bod

Erthygl 15: I gwrdd â’m ffrindiau ac ymuno â grwpiau a chlybiau

Erthygl 7: I enw a chenedligrwydd