08/02/2023 |
Goruchwyliwr Clwb Ôl-ysgol – Clwb Ôl-ysgol Borderbrook, Wrecsam
Dyddiad cau: 20/03/2023
Oriau gwaith a gontractir: Contract dim-oriau
Dyddiau gwaith: Dydd Llun -Dydd Gwener
Oriau i’w gweithio: Yn ystod y tymor (wedi oriau ysgol)
Cyflog: £10.50 yr awr
Cymwysterau/profiad gofynnol:
- Cymhwyster NVQ Lefel 3 leiaf, sy’n addas i weithwyr chwarae
- Bod yn barod i gefnogi ethos ein hysgol
- Bod â phrofiad o weithio ym maes gofal plant, o ddewis, gofal allysgol
- Bod â sgiliau trefniadol a chyfathrebu rhagorol
- Bod yn ddeinamig, gwydn ac yn weithiwr called â natur gadarnhaol
- Bod yn gallu gweithio’n annibynnol a sefydlu perthnasoedd cadarnhaol â disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a’r staff
- Bod â chymwysterau cymorth cyntaf, hylendid bwyd ac amddiffyn plant
- Profiad o waith chwarae a’r gofyniad i gwblhau cymhwyster gwaith chwarae
- Darparu tystiolaeth o gynllunio ac arwain gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored
- Rhoi tystiolaeth o ddylunio a chreu mannau chwarae penodol
Disgrifiad o’r dyletswyddau: Mae’r rôl hon yn un o arwain amgylchedd chwarae creadigol diogel i blant 3-11 blwydd oed. Mae’r swydd yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, â hunan-gymhelliad ac a all benderfynu drostynt eu hunain a goruchwylio plant yn hyderus. Bydd yr unigolyn hefyd yn gweinyddu o ddydd i ddydd ac yn ac yn cynllunio rhaglen chwarae amrywiol a chreadigol.
Sut i wneud cais: Cysylltwch â’r Pennaeth (Emma Jones) ar 01948 770676 os gwelwch yn dda i gael mwy o wybodaeth.
Mae Cylch Chwarae Cymunedol a Chlwb Ôl-ysgol Borderbrook yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Bydd y swydd yn modo lar wiriad manylach y GDG a geirdaon. Dylai’r ceisiadau fod ar ffurf CV a llythyr cyflwyno drwy e-bost: Gofynnir i chi e-bostio mailbox@borderbrook-pri.wrexham.sch.uk
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall.