16/05/2023 |
Dirprwy Reolwr – Clwb gofal a gwyliau amlapiol Penarlâg, Sir y Fflint
Dyddiad cau: 31/05/2023
Oriau wythnosol a gontractir: 16 awr yr wythnos
Dyddiau gwaith: Dydd Llun – Dydd Gwener
Oriau i’w gweithio: Yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol
Oriau gwaith: Cyn oriau ysgol, wedi oriau ysgol, yn ystod y diwrnod ysgol.
Cyflog: £12.50 yr awr
Cymwysterau/profiad gofynnol:
- NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae neu gyfwerth
- Profiad o weithio gyda phlant 3 i 11 blwydd oed
- Tystysgrif 12-awr gyfredol mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Profiad o weinydd
- Deall anghenion amrywiol plant a’u teuluoedd
- Deall y materion sydd ynglŷn â chyflenwi gofal chwarae o ansawdd
- Deall y materion sydd ynglŷn â chyfle cyfartal
- Darparu a hwyluso chwarae diogel a chreadigol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm ac arddangos sgiliau arweinyddol
- Barn ddiogel a synnwyr cyffredin
- Profiad o weithio mewn lleoliad sy’n seiliedig ar chwarae
- Profiad o gyllido
- Y gallu i ddefnyddio TG yn fedrus i gefnogi’r chwarae a gweinyddiad y clwb
- Y gallu i weithio yn ôl eich cymhelliad eich hun
- Hyfforddiant priodol mewn amddiffyn plant
- Tystysgrif mewn Hylendid Bwyd
Disgrifiad o’r dyletswyddau:
- Helpu’r rheolwr i gynllunio, paratoi a chyflenwi cyfleoedd chwarae o ansawdd mewn amgylchedd diogel a gofalgar.
- Darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth i weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr yn absenoldeb y rheolwr.
- Paratoi’r man chwarae a’i glirio, yn cynnwys symud dodrefn a chyfarpar chwarae.
- Darparu rhywfaint o fwyd/diod a sicrhau y bodlonir y safonau hylendid, iechyd a diogelwch.
- Gweinyddu cymorth cyntaf yn ôl yr angen.
- Ymgynghori â’r plant a’u cynnwys mewn gweithgareddau cynllunio.
- Annog ymwneud rhieni â’r clwb
- Hwyluso cyfathrebu da â holl aelodau’r sefydliad, rhieni, ysgolion ac asiantaethau sy’n gysylltiedig â chwarae.
- Ymgymryd â hyfforddiant priodol a pherthnasol.
- Cadw’r amgylchedd chwarae’n iach ac yn ddiogel.
- Gweithio o fewn fframwaith polisïau a fframweithiau’r clwb.
- Cyfrifoldeb rhedeg y feithrinfa a chlwb gwyliau o ddydd i ddydd.
- Y gallu i gefnogi’r rheolwr i gadw cofnodion, gweinyddu a chadw cyfrifon.
- Bod yn gofrestredig ag Arolygiaeth Gofal Cymru fel ‘Unigolyn Cyfrifol’ a ‘Pherson â Gofal’.
Lleoliad y swydd: Sir y Fflint, CH5 3RQ
Sut i ymgeisio: Please email penarlagholidayclub@outlook.com am ffurflen gais.
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall.