Gweithiwr Chwarae – Gofal Allysgol Saplings, Bro Morgannwg

Dyddiad cau: 02/06/2023

Oriau  wythnosol a gontractir: 22.5 awr yr  wythnos  

Dyddiau gwaith: Dydd Llun – Dydd Gwener  

Oriau i’w gweithio: Yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol   

Oriau gwaith: Cyn ac Ar ôl oriau’r ysgol  

Cyflog: £10.90 yr awr    

Cymwysterau/profiad gofynnol:  

Yn ddelfrydol bydd arnoch angen safon dda o addysg hyd at TGAU. Nid yw cymwysterau mewn gofal plant yn angenrheidiol, ond rhaid eich bod yn fodlon cwblhau unrhyw hyfforddiant sy’n berthnasol i’r rol. Byddai cymhwyster Lefel 1 / 2 mewn Gwaith Chwarae yn ddymunol.   

Byddai profiad o weithio gyda phlant yn fantais. Dymunir dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a’r gallu i drefnu gweithgareddau hwyliog y tu mewn a’r tu allan ym mhob fath o dywydd. Byddai gwybodaeth o’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn fantais ond nid yn hanfodol, a’ch bod yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd Diogelu. Bydd hefyd gennych y gallu i gyfathrebu â phlant ac oedolion.   

Disgrifiad o’r dyletswyddau: Rydym yn awyddus i recriwtio person egnïol, brwdfrydig a gofalgar sy’n llawn angerdd dros ddarparu cyfleoedd i bob plentyn chwarae.  

Mae angen i chi fod â’r awydd i gefnogi plant o bob gallu yn y lleoliad chwarae. Wrth weithio yn rhan o dîm byddwch ynglŷn â chynllunio a chyflenwi cyfleoedd chwarae hwyliog a chreadigol i blant o 4 i 11 blwydd oed. Byddwch yn cynorthwyo i gwblhau dogfennaeth megis asesiadau risg a chofrestrau presenoldeb dyddiol.  

 Lleoliad  y swydd: Bro Morgannwg, CF64 3PD  

Sut i ymgeisio:   Am wybodaeth bellalch cysylltwch â  Kath John,  JohnK12@hwbcymru.net  07983835953  

 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.  

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board