I gynorthwyo’ch Clwb Gofal Plant Allysgol i gynllunio a pharatoi i ailagor i bob plentyn pan fydd Canllawiau’r Llywodraeth yn caniatáu hynny. Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs wedi datblygu templed holiadur y byddech efallai am ei ddefnyddiol i fesur y galw posibl am leoedd gofal plant (y gellir eu defnyddio ar gyfer cyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth a defnyddwyr posibl, newydd). Rydym hefyd yn creu arweiniad defnyddiol ar gyfer sefydlu Holiadur Google, a fydd ar gael yn y dyfodol agos yn ardal aelodau ein gwefan - i adnewyddu eich aelodaeth a chael mynediad at yr adnodd hwn unwaith y bydd yn barod, ewch i www.clybiauplantcymru.org/members.asp
Rydym wedi bod wrth ein boddau’n gweld y ffyrdd arloeso y mae’r Sector Allysgol wedi cadw cysylltiad â theuluoedd tra bod y plant wedi methu â mynd i’r sesiynau, ac rydym wedi casglu at ei gilydd rhai enghreifftiau mewn Taflen Ymgysylltiad Rhiant/Gofalwr. Gallai hyn roi rhai ffyrdd ychwanegol i chi o gyfathrebu â’ch cymuned nes eich bod yn gallu ailagor yn llawn i’r holl blant.
Tweet