Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Dŵr Cymru Welsh Water

Mae’r  Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau roi hwb i[w hymrechion i godi arian i achosion da y neu hardal leol. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith o’r fath yn digwydd – ac yn codi arian i brosiectau er lles y gymuned – gallech gael eich ariannu am swm hyd at £1,000 gan Ddŵr Cymru.

Cliciwch yma for further information.


The Screwfix Foundation

Rydym yn elusen sy’n rhoi grantiau ac â’r diben clir o gefnogi prosiectau sy’n gwella, atgyweirio a chynnal cartrefi a chyfleustodau cymunedol a ddefnyddir gan y sawl sydd mewn angen ar draws y DU.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.


Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy

Lansiwyd y Gronfa Gymunedol yn 2021 i gefnogi prosiectau newydd gan elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn ardal Hafren Dyfrdwy.

Gall ymgeiswyr wneud cais am £2,000-£10,000 ar gyfer prosiectau sy’n unigryw, rhai y mae gwir angen cymunedol amdanynt, ac a fydd yn amlwg yn cael effaith wirioneddol ar lesiant cymuned.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach