Dyddiau Ymwybyddiaeth

Mai 5 2023 Diwrnod Vesak  

Ystyr Vesak yw diwrnod y lleuad lawn, a dyma’r diwrnod mwyaf cysegredig oll i Fwdistiaid. Fe’i hadnabyddir hefyd fel Wesak neu Ddiwrnod Bwda. Y mae’n ddathliad o ben-blwydd Bwda, ac i rai Bwdistiaid mae’n nodi ei ddod yn oleuedig (pan ddarganfu ystyr bywyd). 

Y mae bob tro’n amser i fyfyrio a rei ddysgeidiaeth a’r hyn a olyga i fod yn Fwdydd. Am fwy o wybodaeth ar Vesak  Cliciwch yma. 


Mai 1-7 2023 Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddyliol Mamolaeth  

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddyliol Mamolaeth yn ymgyrch sydd wedi ei neilltuo i siarad am broblemau iechyd meddyliol cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Mae’n amcanu at godi ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o iechyd amenedigol; eiriol dros fenywod a theuluoedd  a effeithir ganddo; newid agweddau, a helpu pobl i gael gafael ar y wybodaeth, y gofal a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt i adfer. Mae gwahanol themâu bob diwrnod, a  

cheir o hyd iddynt ar y wefan ond y thema gyffredinol am eleni yw  ‘gyda’n gilydd mewn byd newidiol’. 


Mai 4 2023 – Diwrnod Star Wars  

Mae Diwrnod Star Wars yn ddathliad anffurfiol o bopeth ynglŷn â Star Wars. Dewisir Mai’r 4ydd oherwydd ei fod yn swnio fel y dyfyniad o’r fasnachfraint ‘‘May the force be with you’. Os nad ydych wedi gwylio Star Wars efallai mai heddiw yw’r diwrnod i wneud hynny o’r  diwedd!! Gallech ddathlu Diwrnod Star Wars trwy  gyfrwng gemau a gweithgareddau Diwrnod Star Wars yn eich clwb!,