Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Pam dod yn aelod?

  • Bydd eich aelodaeth  hyd at 31.03.2024 yn arbed y canlynol i chi:Gostyngiad o hyd at 5% ar Wiriadau’r GDG  gydag uCheck
  • £20.00 am bob person unigol sy’n bwcio lle ar gwrs Hyfforddi (mae ffi o £20.00 y person yn achos rhai nad ydynt yn aelodau)
  • £50.00 o ostyngiad os ydych yn prynu gweithdy clwb
  • Ymaelodi am ddim/am bris gostyngol gyda  Magicbooking*     

*Bydd Telerau ac Amodau’n gymwys

Bydd gennych CHI hefyd fynediad at:  

  • Hysbysebu am ddim i’ch Clwb ar  www.clybiauplantcymru.org  –  fel y gall rhiei/gofalwyr ddod o hyd i’ch lleoliad 
  • Hysbysebu ar gyfer recriwtio yn ddi-dâl ar www.clybiauplantcymru.org a’r cyfryngau cymdeithasol 
  • Arweiniad arbenigol am ddim ar: gynllunio busnes, ehangu, cofrestru, sicrwydd ansawdd a phob agwedd arall ar ddarparu Clwb Gofal Plant Allysgol gan dîm o Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant. 
  • Cefnogaeth wedi ei darparu gan eich swyddfa ranbarthol ar faterion gofal plant a busnes.
  • Efwletin wythnosol am ddim
  • Newyddlen chwarterol, sy’n cynnwys syniadau am weithgraeddau a chodi arian, am ddim 
  • Cyhoeddiadau, yn cynnwys Camu Allan (sy’n llawn o bolisïau a gweithdrefnau enghreifftiol i’ch helpu i gyfateb â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol)
  • Cyfle i fod yn rhan o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a llunio dyfodol Gofal Plant Allysgol yng Nghymru.  

Rheolwch y wybodaeth am eich clwb ar-lein drwy ein porth. Yma gallwch ddiweddaru eich manylion ar ein Dod o Hyd i Glwb, cwblhau Asesiad Gofal Plant Allysgol a hysbysu’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant lleol o unrhyw newidiadau.

Mae’r ffurflen hon ar gyfer Clybiau Gofal Plant All-Ysgol unigol YN UNIG.

Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn cynnwys Clybiau Brecwast (sy’n rhedeg cyn dechrau’r diwrnod ysgol), Clybiau Ôl-Ysgol (sy’n rhedeg ar ddiwedd y diwrnod ysgol – o 15.00 ymlaen fel arfer), a Chlybiau Gwyliau sy’n rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol.

Manylion y Clwb

Nodwch isod gyfeiriad lleoliad eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol. Dyma’r cyfeiriad a ddefnyddir os ydych wedi cytuno i gael eich ychwanegu i’n cyfleuster chwiliwr clwb. Dyma, hefyd, y manylion a ddefnyddir os bydd rhiant neu berson â diddordeb yn ffonio un o’n swyddfeydd i ofyn am fanylion clybiau yn eu hardal nhw. Cwbhlewch yr HOLL wybodaeth hon YN LLAWN, os gwelwch yn dda.

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
A oes gennych (ticiwch bob un perthnasol):
Gall aelodau gael mynediad at fuddion ychwanegol drwy ein gwefan yn www.clybiauplantcymru.org Er mwyn gallu gwneud hyn bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost i ni. Unwaith y bydd gennym y wybodaeth hon, anfonir cyfrinair atoch yn awtomatig, a fydd yn caniatáu ichi gael gwybodaeth ac adnoddau sydd ar gael i aelodau yn unig. Gall y cyfeiriad e-bost hwn fod yn gyfeiriad e-bost Clwb neu’n gyfeiriad e-bost personol, gan na fyddwn yn ei rannu heb eich caniatâd. Bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs hefyd yn ychwanegu eich cyfeiriad e-bost at ein rhestr gyswllt i gadw mewn cysylltiad â chi, anfonwch e-fwletin wythnosol ac adnoddau/gwybodaeth ddefnyddiol eraill. 
Ticiwch yma i roi eich caniatâd i gysylltu:
Yn fantais ychwanegol wrth ddod yn aelod o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ychwanegir eich clwb i gyfleuster ‘chwilio’ ar ein gwefan, www.clybiauplantcymru. org. Nodwch yn y blwch isod os cytunwch i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio i’r pwrpas hwn.
Clybiau a Restrir
Cofrestrwyd gydag AGC:
Prif iaith eich clwb:
Beth yw strwythur cyfreithiol eich clwb?
Price: £55.00

Ydych chi am ychwanegu clwb arall? (1)
£0.00

**Aelodaeth Flynyddol: Wedi'i ariannu'n llawn gan Sefydliad Moondance**

Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Bydd y flwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 01.04.2023 i 31.03.2024. Bydd pob aelodaeth yn dod i ben ar 31.03.2024.

Gweledigaeth Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!