Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Darperir hyfforddiant yn ddi-dâl fel arfer i’r clybiau sydd wedi ymaelodi â ni. Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau mewn achosion lle darperir yr ariannu gan awdurdod lleol neu arianwyr arbennig a fydd yn caniatáu aelodau o ardal benodol yn unig i fod yn bresennol. Gwelwch bob cwrs yn ein rhaglen i sicrhau eich bod yn gymwys, neu ffoniwch eich swyddfa leol.

Mewn rhai achosion gall rhai nad ydynt yn aelodau yn ogystal archebu lle ar ein cyrsiau hyfforddi. Rhaid i rai nad ydynt yn aelodau dalu ffi archebu (na ellir ei had-dalu).

Rhaid talu pob ffi archebu lle/ffi gwrs o fewn 3 diwrnod gwaith. Dylech dderbyn cadarnhad o’ch lle o fewn 5 niwrnod wedi talu. Os na fyddwch yn derbyn cadarnhad, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol

Canslo:

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw sesiynau sydd wedi eu harchebu, RHAID i chi roi rhybudd o 48 awr o leiaf. Bydd methiant i fod yn bresennol mewn sesiwn, heb fod wedi rhoi rhybudd digonol, yn golygu codi tâl arnoch am ddiffyg presenoldeb.

 

Rydym yn Is-gontractiwr i Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gylfenwi Prentisiaethau mewn Gwaith Chwarae.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

 

 

Cyrsiau Hunanastudio ar Arferion Gwrth-hiliaeth ar gyfer gweithwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

Hyfforddiant

Manteision Hyfforddiant

Dywed Egwyddor Gwaith Chwarae 6 “Seilir ymateb y gweithiwr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ar wybodaeth gadarn a chyfamserol o’r broses chwarae ac arferion myfyriol”; mae ein hyfforddi’n rhoi’r cymorth sydd ei hangen arnoch i gyflawni hyn.

 

Gwell arferion a Arweinir gan Blant

Gall hyfforddiant eich helpu i ystyried anghenion y plant yn eich cymuned a sut y gallwch ymateb i’w hoffterau chwarae.

Tyfu’ch gyrfa

P’un a ydych yn cwblhau cymwysterau neu ddatblygiad proffesiynol parhaus gall ein hyfforddiant eich helpu i dyfu mewn hyder, sgiliau a gwybodaeth. Mae nifer o’n dysgwyr yn symud ymlaen i rolau newydd a lefelau uwch.

Bod eich llais yn cael ei glywed

Mae hyfforddiant yn annog cyfranogwyr i fyfyrio ar eu syniadau ac yn eu grymuso i fod yn eiriolwyr cryfach i blant a chwarae.

Bod yn fwy chwareus

Rydym nid yn unig darparu syniadau hwyliog i chi eu hymarfer; gallwn hefyd eich helpu i ddeall eich rhan chi yn y cylch chware, pan fydd angen ymyrryd a phan ddylid osgoi gwneud hynny.

Newyddion

Y Newyddion diweddaraf gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol

 

Gweld pob post

29.05.2026

Gair Cymraeg yr Wythnos

1-7 Mehefin 2026 Mehefin (ynganir: “Meh-hev-in”), ystyr June. meh → fel dechrau’r gair metal hev → fel heavy heb yr ‘y’ (cofiwch: mae ‘f’ yn y Gymraeg yn swnio fel ‘v’)  in → fel in […]

Darllen mwy

29.05.2026

RhCT: Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2026-2027

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer parhad y Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach, gyda’r nod o gefnogi darparwyr gofal […]

Darllen mwy

29.05.2026

Powys: Cynllun Grantiau Bach Cyfalaf 2026/27 – Ceisiadau Ar Agor

Mae Powys yn falch o gyhoeddi bod y Cynllun Grantiau Bach Cyfalaf yn dychwelyd eleni. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy’r ffurflen […]

Darllen mwy
CYSYLLTWCH Â NI

Angen cymorth? Rydyn ni yma – estynnwch allan!  

Os ydych chi’n glwb sy’n chwilio am arweiniad; gweithiwr chwarae sydd eisiau dechrau eich gyrfa; neu os oes ddiddordeb yn y sector gennych ac eisiau gwybod mwy: gadewch i ni weithio gyda’n gilydd. Fe roddwn ni’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

 

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!