Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Ein Cynnig Cymraeg

 

Mae gan Gymru fel gwlad ei hiaith frodorol ei hun ac mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Er ei bod yn un o’r hynaf, mae’r Gymraeg yn iaith fyw, un sy’n addasu, gan fodloni anghenion y rhai sy’n ei siarad.

Mae ei ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn destun balchder i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Yn ei weledigaeth, ei nodau strategol a’i werthoedd, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn addo cefnogi Cymraeg 2050 (miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050). Mae’r addewid hon yn gosod i lawr sut rydym yn annog yr holl bobl y cydweithiwn â nhw i ddefnyddio a gwerthfawrogi gwerth yr iaith Gymraeg i’n diwylliant a’n cymunedau.

 

What you can expect:
  • Gallwch dderbyn cefnogaeth sector-benodol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus trwy ein Swyddogion Hyfforddi a’n Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant yn yr iaith o’ch dewis.
  • Byddwn yn rhoi gwybodaeth gyfamserol yn ddwyieithog ar ein gwefan a’n llwyfannau cyfrwng-cymdeithasol, yn cynnwys bwletinau wythnosol.
  • Byddwn yn hyrwyddo ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn ddwyieithog ac yn sicrhau bod profiadau siaradwyr Cymraeg yn cael eu hadlewyrchu yn ein marchnata.
  • Byddwn yn annog staff a lleoliadau i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, drwy ddefnyddio’r prosiectau Cymraeg Gwaith a CAMAU ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  • Rydym yn croesawu cyfathrebu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, rhoddir yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.

 

 

Comisiynydd y Gymraeg

 

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!