Aelodau
Ymaelodi
Rydym yn galluogi, yn grymuso ac yn annog ein Cymuned o Glybiau i gredu yn eu galluoedd eu hunain. Gan gynnig cymorth yn ôl yr angen, rhown gyfle iddynt gymryd perchnogaeth o’u Clybiau Gofal Plant Allysgol, â balchder. Rydym am weld Clybiau Gofal Plant Allysgol yn ffynnu. Edmygwn yr effaith ryfeddol y maen nhw, a’n Cymuned o Glybiau, yn ei chael ar brofiadau plant.
Mae popeth a wnawn wedi’i seilio ar ein gwybodaeth eang o’r Sector Gofal Plant Allysgol. Gwyddom fod pob clwb yn wahanol, a gwyddom yn well na neb arall nad oes ‘un ffordd sy’n iawn i bawb’. Edmygwn yr amrywiaeth o glybiau – a defnyddiwn ein harbenigedd a’n gwybodaeth o’r diwydiant i addysgu a chefnogi ein Cymuned o Glybiau.
Rydym yn cefnogi Gweithwyr Chwarae i ddarparu’r gofal plant gorau posibl ledled Cymru
Mae gennym lyfrgell o adnoddau i’ch helpu i dyfu’ch Clwb Gofal Plant Allysgol a dod yn gynaliadwy
Byddwch yn rhan o’r llais dros y gymuned Ofal Plant Allysgol
Byddwch yn rhan o’n gweledigaeth i wneud Cymru’n lle y mae Plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu
Bydd eich aelodaeth ddi-dâl hyd at 31.03.2023 yn arbed y canlynol i chi:.
CEWCH hefyd fynediad at: