Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Mae dechrau clwb eich hunan yn hawdd

Dilynwch ein Proses Syml i Ddechrau Clwb

Dilynwch ein Proses Syml i Ddechrau Clwb

  1. Cwblhewch ymchwil i’r farchnad i adnabod y galw, yr oriau gofynnol a’r ffioedd ymae rheini’n fodlon eu talu.
  2. Nodwch leoliadau posibl;, gall y rhain fod mewn ysgol neu adeilad cymunedol.
  3. Dechreuwch GRWP LLYWIO, os oes angen, i benderfynu ar strwythur rheolaethol y busnes ac ar gyfer cofrestru gyda’r awdurdodau priodol (Tŷ’r Cwmniau a/neu’r Comisiwn Elusennau).
  4. Cytunwch ar ddydiad agoriadol a chwblhewch cynllun busnes a rhagolwg busnes a llif arian.
  5. Agorwch gyfrif banc yn enw’r busnes.
  6. Proses recriwtio – cytunwch ar ddisgrifiadau swydd a hysbysebwch am staff â chynmwysterau priodol. Gwnewch apwyntiadau’r staff yn ddibynnol ar eirda ysgrifenedig, gwiriadau’r GDG ayyb.
  7. Cofrestrwch gyda Arolygaeth Gofal Cymru (AGC).
  8. Cofrestrwch gyda’r awdurdodau priodol; CThEM, Iechyd yr Amgylchedd, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
  9. Prynwch yswiriant.
  10. Ewch ati i farchnata eich diwrnod agoriadol a chymerwch archebion.
  11. Agorwch!
Canolfan adnoddau

Yn chwilio am fwy o wybodaeth?

Dechrau Clwb

I wybod mwy

Dechrau Clwb

I wybod mwy

Dechrau Clwb

I wybod mwy
Cwestiynau Cyffredin

Sut allwn ni helpu? 

  

 

Beth yw Clwb Gofal Plant Allysgol?

Mae Clybiau Gofal Plant Allysgol yn rhedeg cyn a/neu ar ôl y diwrnod ysgol a/neu drwy’r dydd yn ystod gwyliau’r ysgol. Maent yn darparu gofal plant fforddiadwy a hygyrch sydd o safon ar gyfer rhieni/gofalwyr sy’n gweithio neu’n hyfforddi. Maent yn darparu cyfleoedd chwarae pleserus i blant 3-14 oed. Byddai clwb ar ôl ysgol arferol yn rhedeg o ddiwedd y diwrnod ysgol tan 5:30yp neu 6yh. Mae’r plant yn cael cynnig byrbryd iach ac maent yn rhydd i ddewis o amrywiaeth o gyfleoedd chwarae. Maent yn parhau i fod yng ngofal staff cymwysedig nes iddynt gael eu casglu gan rieni/gofalwyr.

Beth yw manteision Clybiau Gofal Allysgol?

Mae clybiau yn:

  • rhoi profiadau chwarae a hamdden gwerthfawr i blant a lleihau’r peryglon y gallent eu hwynebu heb ofal digonol;
  • gwella sgiliau cymdeithasol plant a darparu cyfleoedd dysgu;
  • rhoi cyfle i rieni fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu addysg y maent eu heisiau, neu i gael swydd;
  • cynorthwyo cyflogwyr i recriwtio a chadw staff;
  • sicrhau cyflogwyr bod staff gyda phlant oed ysgol yn ddibynadwy ac yn ymroddedig

Ble mae Clybiau Gofal Plant Allysgol wedi'u lleoli?

Fel arfer maent wedi’u lleoli mewn:

  • Ysgolion
  • Gweithleoedd
  • Adeiladau cymunedol
  • Canolfannau hamdden
  • Neuaddau eglwys
  • Meithrinfeydd dydd
  • Canolfannau teuluoedd
  • Clybiau ieuenctid

Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi’r gofynion sylfaenol ar gyfer y safleoedd a ddefnyddir gan glybiau gofal plant. Mae angen ystyried iechyd a diogelwch a gofynion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol hefyd. Os nad yw’r clwb yn cael ei redeg ar dir yr ysgol, yna mae’r plant yn aml yn cael eu hebrwng o’r ysgol i’r clwb. Mae’n werth cofio, os oes angen cludiant, bod costau’n cynyddu’n sylweddol. Mae hyd yn oed cerdded plant o un safle i’r llall weithiau’n golygu cyflogi staff ychwanegol at ddibenion diogelwch.

Pwy sy'n rheoli Clybiau Gofal Plant Allysgol?

Weithiau gall unigolyn neu sawl unigolyn redeg y clwb fel busnes preifat e.e. masnachwr unigol neu bartneriaeth fusnes. Gall trawstoriad o’r gymuned neu ysgol sefydlu pwyllgor a ffurfio cwmni cyfyngedig trwy warant, elusen neu sefydliad corfforedig elusennol. Enwir grŵp o weithwyr sy’n rheoli clwb yn gwmni cydweithredol. Mae ysgolion weithiau’n rheoli Clybiau Gofal Plant Allysgol. Gall eich Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant eich helpu i benderfynu ar strwythur rheoli priodol.

Pwy all helpu i ariannu Clybiau Gofal Plant Allysgol?

Mae’n bosibl y gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn

eich cyfeirio a’ch helpu i gael cyllid i ddechrau eich clwb. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. Hefyd, gall rhieni sy’n gweithio fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gofal plant fel y Cynnig Gofal Plant, Gofal Plant Di-dreth, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu Gredyd Cynhwysol.

Rheoleiddio Gofal Plant

Yng Nghymru, mae mannau gwarchod plant a darpariaethau gofal dydd yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Os yw darpariaeth gofal plant yn rhedeg am fwy na 2 awr y dydd ar gyfer plant hyd at 12 oed, mae’n rhaid iddi, yn ôl y gyfraith, fod wedi’i chofrestru ag AGC. Mae AGC yn sicrhau bod gwasanaethau gofal yn bodloni’r safon y mae’r cyhoedd yn ei disgwyl drwy arolygiadau. Os ydych am agor am fwy na 2 awr y dydd, bydd angen i chi gysylltu ag AGC yn eich ardal chi i gofrestru. Bydd gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs y manylion cyswllt lleol a gall Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant eich cefnogi drwy’r broses gofrestru.

Fel darparwr Gofal Plant Allysgol cofrestredig AGC byddwch yn:

Hyderus bod eich lleoliad yn bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed (sy’n nodi’r safonau gofal sylfaenol y dylai darparwyr cofrestredig eu darparu, gan anelu at ragori arnynt).

Cwrdd ag anghenion rhieni sy’n gweithio/hyfforddi trwy allu agor am dros 2 awr

Galluogi rhieni cymwys sy’n gweithio i gael mynediad at dalebau gofal plant, credydau treth neu gyrchu’r cynllun gofal plant di-dreth a gyflwynwyd yn 2016/17, sy’n cefnogi gofal plant fforddiadwy i deuluoedd sy’n gweithio;

Cefnogi’r cydbwysedd gwaith/bywyd cartref drwy roi tawelwch meddwl i deuluoedd, a thrwy hynny gefnogi ansawdd bywyd y plentyn

Cael cyfleoedd i gael cyllid drwy awdurdodau lleol (lle mae ar gael)

Mwynhau hyrwyddiad a chydnabyddiaeth am ddim trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, sy’n rhannu gwybodaeth am ofal plant cofrestredig â rhieni sydd â diddordeb.

Our Clubs

Apply to start your own club

Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna aliquyam erat, sed diam voluptua. At vero.

Rydyn ni Yma i’ch helpu

Sut y gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Wales helpu:

  • Byddwch yn gweithio gyda Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant all eich helpu i ddatblygu eich Clwb Allysgol gan gynnwys:
  • Ymchwilio I’r angen lleol am y clwb (cysylltwch â Chlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs am sampl o holiadur rhieni).
  • Penderfynu ar strwythur trefniadaethol addas.
  • Ysgrifennu cynllun busnes ac ariannol.
  • Cyfleoedd ariannu i sefydlu a chynnal eich Clwb Gofal Plant Allysgol.
  • Datblygu strategaeth codi arian.
  • Gofynion cyfreithiol a datblygu polisïau a gweithdrefnau.
  • Cofrestru gydag AGC.
  • Recriwtio a sefydlu staff addas gyda chymwysterau priodol a’u hanghenion hyfforddi parhaus.
  • Hyrwyddo.
  • Gwella ansawdd.
  • Yswiriant gostyngol.

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!