Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Pam dod yn aelod?

  • Tanysgrifiad i’n newyddlen chwarterol ‘Y Bont’ AM DDIM – a graddfeydd hysbysebu gostyngol.
  • Cewch hysbysebu swyddi gwag yn eich clwb ar ein gwefan – AM DDIM – does ond angen i chi e-bostio recruitment@clybiauplantcymru.org.
  • Mynediad i Gyrsiau Hyfforddi

Mae’r ffurflen hon ar gyfer Unigolion a Chyfundrefnau sy’n dymuno Cefnogi Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru. Os ydych yn Glwb Gofal-Plant All-Ysgol, ac os hoffech ddod yn aelod o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, yna cysylltwch â membership@clybiauplantcymru.org neu 029 2074 1000 a gofynnwch am Ffurflen Gais ar gyfer Clwb Gofal Plant All-Ysgol. Os ydych yn Gyfundrefn sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer plant, yna defnyddiwch y ffurflen aelodaeth ar gyfer Aelodaeth Gysylltiol: Categori 1: ar gyfer rhai sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer plant.

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.

1 Gwybodaeth Gyffredinol (Llenwch bob adran)

A: Aelodaeth ar gyfer Unigolion

Cyfeiriad y Gyfundrefn

Cwblhewch Y CYFAN o’r wybodaeth hon YN LLAWN

B Aelodaeth ar gyfer Cyfundrefnau Eraill

Dywedwch rywfaint wrthym, os gwelwch yn dda, am eich cyfundrefn, ac am eich diddoredeb mewn Gofal Plant All-Ysgol a Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Cyfeiriad y Gyfundrefn

Rhowch isod gyfeiriad safle a manylion cyswllt eich Cyfundrefn. Rhowch y CYFAN o’r wybodaeth hon yn LLAWN, os gwelwch yn dda.

2 Cyfeiriad Gohebu

Os byddai’n well gennych petaem yn anfon gohebiaeth megis ‘Y Bont,’ ein newyddlen chwarterol, ynghyd â gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a.y.b. i gyfeiriad gwahanol, a fyddech gystal â nodi isod. Byddwch yn derbyn gohebiaeth i UN cyfeiriad YN UNIG

Anfonwch ohebiaeth i’r cyfeiriad uchod, os gwelwch yn dda.

3 Cyfeiriad Ebost

Gall aelodau o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dderbyn manteision ychwanegol drwy gyfrwng ein gwefan, www.clybiauplantcymru.org Er mwyn medru gwneud hyn, bydd angen i chi ein hysbysu o’ch cyfeiriad ebost. Unwaith y cawn y wybodaeth hon, anfonir cyfrinair atoch yn awtomataig. Bydd y cyfrinair hwn yn eich galluogi i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau sydd ar gael i aelodau’n unig. Ni fyddwn yn rhannu’r cyfeiriad ebost hwn â neb heb eich caniatâd.

Price: £350.00

Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Bydd y flwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 01.04.2023 – 31.03.2024. Bydd pob aelodaeth yn dod i ben ar 31.03.2024.

Gweledigaeth Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!