
14.07.2025 |
Blaenoriaethu Gofal Plant All-Ysgol — Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd 2026
Darllenwch grynodeb ein Maniffesto yma, gyda’r fersiwn lawn yn cael ei lansio ym mis Medi!
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn rhagweld Cymru—lle mae plant yn chwarae ac mae cymunedau’n ffynnu.
Cyn yr etholiadau i’r Senedd 2026, mae’r sefydliad yn galw ar bob plaid wleidyddol ac ymgeisydd ar gyfer Etholiad Senedd 2026 i flaenoriaethu Gofal Plant All-Ysgol fel rhywbeth hanfodol i gynnal hawliau plant, hyrwyddo lles, cefnogi teuluoedd, a hybu twf economaidd.
Mae’r maniffesto, a luniwyd gan y gymuned Gofal Plant All-Ysgol, yn annog gweithrediad mewn tri maes allweddol:
- Llesiant – Sicrhau mynediad at amgylcheddau diogel a meithringar sy’n cefnogi hawl plant i chwarae a thyfu.
- Gweithlu – Gwerthfawrogi a buddsoddi mewn gweithlu gofal plant medrus a chefnogol.
- Cyllid a Chymorth – Sicrhau darpariaeth gynaliadwy a fforddiadwy sy’n diwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau.
Gyda dros 45,000 o blant yn cael eu cefnogi a hyd at 5,000 o Weithwyr Chwarae yn cael eu cyflogi, mae’r sector yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi rhieni a gofalwyr i weithio neu hyfforddi, gan wella amgylchiadau teuluol a chyfrannu at ffyniant Cymru yn y dyfodol.