Diwrnod ym Mywyd Gweithiwr Chwarae: dyma Sam Gocher 

Fy enw i yw Sam a fi yw Rheolwr Little Disciples Childcare ym Mhenymynydd, Sir y Fflint. Mae ein lleoliad yn darparu clwb brecwast, gofal cofleidiol, clwb ôl-ysgol a chlwb gwyliau i blant 3-11 oed. 

 

Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn bob amser yn mwynhau reidio fy meic o amgylch y lonydd bychain yn ein pentref gyda’m ffrindiau, a chwarae yn y parc lleol. Roeddwn ar hyd yr adeg, o oedran ifanc, yn gwybod fy mod eisiau gweithio gyda phlant. Mae gweld y plant yn cyflawni, yn cael hwyl, ac yn rhannu eu syniadau bob amser yn rhoi gwên ar wyneb pawb! 

Mae chwarae mor bwysig i blant a phobl ifanc gan ei fod yn darparu sylfaen ar gyfer eu sgiliau cymdeithasol, yn hybu eu dychymyg a’u creadigrwydd, ac mae’n hanfodol ar gyfer eu lles corfforol ac emosiynol. Rwyf wrth fy modd yn arsylwi ar blant yn defnyddio adnoddau rhannau rhydd i gyfoethogi eu cyfleoedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored. 

 Yn ein lleoliad ni, rydym yn ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd rhagorol o ran llesiant i’r plant. Mae darparu gweithgareddau a chyfleoedd i sgwrsio am lesiant y plant yn eu galluogi i fynegi eu hunain, i feithrin gwytnwch ac ymdopi â heriau i gefnogi eu lles meddyliol. 

Ar ddiwrnod arferol, cyn gynted ag y byddaf yn cyrraedd ein lleoliad, rwy’n gweithio gyda’r staff i sicrhau bod y man chwarae yn cael ei sefydlu fel lle diogel ac ysgogol i wneud y gorau o chwarae’r plant, ac yn sicrhau hefyd bod yr asesiadau risg dyddiol yn cael eu cwblhau. Yna byddwn yn croesawu ein plant i’r neuadd, yn llenwi’r gofrestr ac yn siarad am ba gyfleoedd a gweithgareddau chwarae dan do ac awyr agored yr hoffai’r plant fanteisio arnynt.   

Yn ystod y sesiwn, rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi’r plant yn eu chwarae ac yn ymateb i unrhyw giwiau chwarae. Rydym hefyd yn ymateb i unrhyw gwestiynau ac yn darparu adnoddau ychwanegol i gyfoethogi eu profiadau chwarae. 

Pan fydd plant yn cael eu casglu, rydym yn cyfathrebu â rhieni/gofalwyr, gan roi adborth am ddiwrnod y plentyn, unrhyw negeseuon pwysig, a chyflawniadau’r plant.  Ar ddiwedd y sesiwn chwarae, rydym bob amser yn gwerthuso ac yn adfyfyrio ar y gweithgareddau a ddarperir a chyfleoedd chwarae rhydd, ac yn ystyried adborth y plant. Rydym hefyd yn sicrhau bod y lleoliad yn lân ac yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol. 

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector gwaith chwarae ers 15 mlynedd, ac fe wnes i ddechrau fy ngyrfa yn gweithio mewn ysgol gynradd. Gofynnwyd i mi a hoffwn wneud cais am swydd fel gweithiwr chwarae wrth gefn, a llwyddais i gael y swydd.  Daeth y rôl hon yn barhaol a manteisiais ar gyfleoedd i gael cymwysterau, yn gyntaf ennill Lefel 2 mewn Gofal, Dysg a Datblygiad Plant ac yna Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Fe wnaeth hyn wella fy ymarfer a hefyd fy ngalluogi i ddatblygu fy rhagolygon gyrfa ymhellach. Deuthum yn rheolwr 9 mlynedd yn ôl. 

Fy nghyngor gyrfa i fyddai i gael hwyl, chwarae a chwerthin gyda’r plant. Mae gweithio yn y sector gwaith chwarae yn rhoi boddhad mawr, mae’n hwyl ac yn eich calonogi.