Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol – Mis Hydref 2022

Mae mis Hydref yn fis rhyngwladol cerdded i’r ysgol.  Nod Living Streets yw creu gwlad lle byddwn yn dibynnu’n llai ar wahanol  fathau o gludiant amgen ac yn cynyddu ein defnydd o gerdded er mwyn ei fanteision i les cyffredinol ac iechyd. Ei nod drwy gydol mis Hydref yw datblygu arferion iach a chyflwyno ymarfer corff i’n bywydau. At hyn, mae cerdded yn llawer gwell i’r amgylchedd ac yn help i leihau ein hol-troed carbon. Er ei bod yn ddiwedd mis Hydref, y mae chwe diwrnod eto ar ôl i gerdded i ac o’r ysgol cyn i’r mis ddod i ben.


Diwrnod y Cenhedleodd Unedig – Dydd Llun Hydref 24 2022

Mae Diwrnod y Cenhedloedd Unedig yn nodi pen-blwydd Siarter y Cenhedloedd Unedig a ddaeth i rym ar Hydref 24ain 1945. Fe’i dathlir yn rhyngwladol ac mae’n adlewyrchu  agenda gyffredin y Cenhedloedd Unedig ac yn cadarnhau diben ac egwyddorion ei Siarter. Neges yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer 2022 yw ‘Trwy roi cyfle i heddwch a diwedd i wrthdrawiadau sy’n peryglu bywydau, dyfodol pobl a chynnydd byd-eang. Trwy ddiogelu ein planed, yn cynnwys torri ein caethineb i danwydd ffosil a rhoi cychwyn ar y chwyldro ynni adnewyddadwy. Ac yn olaf, trwy wrthbwyso cloriannau cyfle a rhyddid i fenywod a merched er mwyn sicrhau iawnderau dynol i bawb. Wrth inni nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig, gadewch i ni adnewyddu ein gobaith a’n hargyhoeddiad yn yr hyn y gall y ddynoliaeth ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio fel un, mewn cydgefnogaeth fyd-eang.


Diwali – Dydd Llun Hydref 24 2022

Mae Diwali yn ŵyl grefyddol a’i wreiddiau yn India; gŵyl Hindŵaidd yw yn bennaf, ac fe’i dathlir yn ogystal gan ambell i Sic a Jain gan fod y tair crefydd a’u gwreiddiau yn India. Mae’n para 5 diwrnod fel arfer, yn ystod mis Hydref neu Dachwedd; mae’n digwydd yn flynyddol ac yn nodi dechrau’r Flwyddyn Newydd Hindŵaidd. Y mae’n ddathliad o fuddugoliaeth daioni dros ddrygioni. I lawer o bobl mae gŵyl Diwali’n anrhydeddu’r dduwies Hindŵaidd Lakshmi, a dywedir bod y goleuadau’n ei helpu hi i ddod o hyd i’w ffordd i mewn i gartrefi pobl, gan ddod â chyfoeth am y flwyddyn i ddod. Traddodiad poblogaidd arall yw Rangoli, lle gwneir patrymau lliwgar drwy ddefnyddio powdrau lliwgar a blodau, ac fe roddir y lluniau ar fynedfeydd tai pobl. Darllenwch esboniad byr o Diwali yma.