11.11.2022 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Tachwedd 14-18fed 2022 – Wythnos Gwrth-fwlio
I nodi dechrau wythnos Gwrth-fwlio, dathlwch Ddiwrnod ‘Dwy Hosan Wahanol’ ar Dachwedd 14eg. Bwriad Diwrnod ‘Dwy Hosan Wahanol’ yw bod yn ffordd hwyliog o fynegi’ch hun trwy wisgo dwy hosan wahanol i’w gilydd am y diwrnod. Gallech hyd yn oed ystyried codi arian i’w Gynghrair Gwrth-fwlio sy’n trefnu’r diwrnod, yn ogystal â’r wythnos gwrth-fwlio sy’n tynnu sylw at y ffyrdd y gallwn atal ac ymateb i fwlio. Ar y wefan gwelir adnoddau a mwy o wybodaeth ar y ffyrdd o fynd i’r fynd i’r afael â bwlio.
Tachwedd 14-20fed 2022 – Wythnos Diogelwch-ar-y-Ffyrdd
Mae’r Wythnos Ddiogelwch, a drefnir gan yr elusen Brake, yn codi arian ac yn ymgyrchu am ffyrdd diogel i bawb. Bydd ysgolion, sefydliadau a chymunedau’n rhannu negeseuon pwysig ar ddiogelwch-ar-y-ffyrdd ac yn cofio’r bobl a effeithir gan farwolaethau ac anafiadau ar y ffordd. Y tri phrif bwyntiau yw MEDDWL am sut y gallwn ddefnyddio ffyrdd mewn ffordd fwy diogel: DEALL sut y gall ffyrdd diogel alluogi pawb i wneud teithiau siwrneiau diogel, ac, i GOFIO dioddefwyr gwrthdrawiadau ar y ffordd. Cofrestrwch ar y wefan i gymryd rhan.
Tachwedd 18fed 2022 – Diwrnod Plant mewn Angen y BBC 2022
Dathlir Diwrnod Plant mewn Angen y BBC, a adnabyddir hefyd fel Diwrnod Pudsey, yn flynyddol ym mis Tachwedd. Eu neges yw ‘gyda’n gilydd gallwn newid bywydau ifanc’. Mae Plant mewn Angen yn cefnogi miloedd o elusennau lleol a phrosiectau sy’n cynnig help i blant a phobl ifanc yn y DU ar faterion o iechyd meddyliol a lles emosiynol i gefnogi plant tlawd, a helpu plant a phobl ifanc i fod y gorau y gallant fod. Ewch i’r wefan i weld adnoddau, canllawiau a syniadau ar godi arian.