Yn eisiau: mentoriaid cymunedol gofal plant a gwaith chwarae

I gefnogi ein nod o greu Cymru Wrth-hiliol a’n camau gweithredu mewn perthynas â’r sector gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru sydd â gwybodaeth a phrofiad o effaith hiliaeth mewn amgylcheddau gofal plant a chwarae.

Os ydych chi’n dod o gymuned Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a bod gennych brofiad o’r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, naill ai fel rhan o’r gweithlu presennol neu yn y gorffennol,  neu fel rhiant/gofalwr plentyn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant neu chwarae, fe hoffem glywed gennych. Gall mentoriaid cymunedol hefyd fod yn academyddion, ymgynghorwyr, swyddogion â phrofiad polisi o lywodraeth leol neu’r sector gwirfoddol neu’r sector preifat, neu’n weithwyr cymunedol sydd â phrofiad mewn un o’r meysydd polisi.

Rydym yn edrych am 10 o unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i ddod yn fentoriaid cymunedol ar gyfer gwasanaeth ymgynghorol â thâl am gyfnod o 15 diwrnod gwaith (120 awr) hyd at fis Mawrth 2024, gyda’r opsiwn o estyn y penodiad am flwyddyn neu ddwy flynedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle unigryw hwn i ddylanwadu ar bolisi ac arferion gwrth-hiliaeth yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, a manylion y swydd, y raddfa gyflog a’r ffurflen gais, gweler y swydd-ddisgrifiad sydd wedi’i atodi Mentoriaid cymunedol gofal plant a gwaith chwarae: yn eisiau | LLYW.CYMRU

Dyddiad cau: dydd Iau 6 Ebrill 2023