Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!  


Grantiau Cymunedol Warburtons 

Mae Grantiau Cymunedol Warburtons yn rhoi grantiau bychain o hyd at £400 i sefydliadau elusennol tuag at weithgreddau ehangach sy’n gwella Iechyd, Lleoedd neu Sgiliau teuluoedd yn eu cymunedau.  

Yn Cau Mai 8fed 2023. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 


Cronfa Buddsoddi Cymunedol Trivallis 

Ar gyfer grwpiau cymunedol sydd wedi’u sefydlu a sefydliadau gwirfoddol sy’n cefnogi pobl yng nghymunedau Trivallis. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos yn gryf yr effaith/effeithiau ar y bobl sy’n byw yno.  Ar agor i grwpiau newydd neu eisoes wedi eu sefydlu ar draws Rhondda Cynon Taf.  

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 


Cwmni ‘The Leathersellers’ 

Bydd Rhaglen Grantiau Bychain ‘Leathersellers’ 2022-23 yn ystyried ceisiadau gan elusennau sydd wedi eu cofrestru yn y DU ac sydd ar waith yma (yn cynnwys Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs), ond nid Cwmnïau Budd Cymunedol (CICs) sy’n gweithredu.  

Mae grantiau o hyd at £5,000 i’w cael. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.