06.04.2023 |
Cyfloeoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Eiriolwyr Cymuned Persimmon
Mae’r uchod yn rhoi rhoddion o hyd at £6,000 bob chwarter i’r sefydliadau lleol hynny sy’n galon ein cymunedau.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach
Cynllun Cymunedau Diogel Burg-Wächter
Os ydych yn rhan o gynllun rhanbarthol sy’n gwneud ei ran yn y gymuned, y peth ola’ sydd ei angen arnoch yw gorfod poeni am ddiogelwch eich adeilad, eich cyfarpar neu’ch mannau storio.
Does ond angen ichi wneud cais i’r cynllun am siawns i’ch prosiect/cynllun gael ennill pentwr o nwyddau diogelwch Burg-Wächter. Gadewch i ni helpu gyda’ch materion diogelwch fel y gallwch barhau i fod yn arwyr eich cymuned leol!
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Asda Foundation
Gwell dechreuadau i’r rhai dan 18 mlwydd oed a Grantiau Costau Byw
Grant i grwpiau lleol sydd wedi ei anelu at gefnogi amrediad eang o weithgareddau i blant o dan 18 mlwydd oed, sy’n cyfrannu tuag at drawsnewid cymunedau a gwella bywydau plant.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.