12.05.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Y Morrisons Foundation
Mae’r uchod yn cefnogi elusennau cofrestredig sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau lleol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf neu gyflawni prosiectau yn uniongyrchol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol
Bydd benthyciadau gwerth hyd at £300,000 ar gael i brynu eiddo at ddefnydd cymunedol, neu i’w ddefnyddio gan grwpiau dod â budd i’r gymuned, rhai megis elusennau, mentrau cymdeithasol neu Gwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC).
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cynghorau Ceredigion a Phowys yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r UKSPF yn y Canolbarth.
Mae hyn yn golygu bod un cynllun rhanbarthol Canolbarth Cymru, ond gyda dyraniadau cyllid ar wahân ar gyfer Powys a Cheredigion.
Mae’r UKSPF yn caniatáu ar gyfer cymysgedd o brosiectau ar draws gwahanol ddaearyddiaethau. Gallwn geisio cefnogi prosiectau sydd o fudd i bobl/sefydliadau naill ai ym Mhowys neu Geredigion – neu ar y cyd fel prosiect Canolbarth Cymru mwy.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.