28.10.2022 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Hyrwyddwyr Cymunedol Persimmon
Mae gwneud cais am rodd yn syml. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw llenwi eu ffurflen ar-lein a dweud wrthynt pam fod eich grŵp neu’ch elusen yn haeddu eu cyfraniad.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Mae’r sefydliad, BlueSpark Foundation yn ariannu prosiectau sy’n anelu at wella addysg a datblygiad plant a phobl ifanc trwy gyfrwng gweithgareddau addysgol a diwylliannol, chwaraeon neu weithgareddau eraill.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Sefydliad Mathew Good
Grants for Good yw ein cronfa gyntaf sy’n gwahodd elusennau lleol, grwpiau gwirfoddol neu fentrau cymdeithasol sydd ag incwm blynyddol cyfartalog o lai na £50,000 i gyflwyno cais am ariannu i ni.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.