05.07.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Henry Smith – Grantiau Gwyliau i Blant
Mae grantiau ar gael i ysgolion, grwpiau ieuenctid, sefydliadau dielw ac elusennau i ddarparu mynediad i deithiau hamdden neu wyliau i grwpiau o blant 13 oed ac iau sy’n profi anfantais neu anabledd ac sy’n byw mewn ardal o amddifadedd uchel.
Y dyddiad cau yw Gorffennaf 22ain 2024
Symiau rhwng £500 a £2800
Ymddiriedolaeth Elusennol Woodward
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Woodward yn rhoi grantiau ar gyfer costau craidd yn unig yn hytrach na phrosiectau penodol gan eu bod yn cydnabod y gall elusennau llai ei chael yn anodd eu hariannu. Maent yn gobeithio y bydd hyn yn cael effaith fwy uniongyrchol ar y sefydliadau y maent yn dewis eu hariannu.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn edrych yn arbennig i ariannu prosiectau sy’n helpu teuluoedd a phobl ifanc ac sy’n ceisio gwella cyfleoedd bywyd eu buddiolwyr.
Yn ogystal ag elusennau cofrestredig bydd ymddiriedolwyr yn ystyried ariannu Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs) a Chwmnïau Buddiant Cymunedol (CICs).
Dyddiad Cau i Geisiadau: Gorffennaf 26ain 2024
Symiau: Grantiau bach – hyd at £3,000, ond fel arfer £1,000 neu lai