Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Little Lives

Nod rhaglen ariannu Little Livesbywydau bach yw cefnogi grwpiau a sefydliadau plant, fel grwpiau chwarae neu ddosbarthiadau chwaraeon ac mae’n agored i geisiadau gan brosiectau eraill, cyn belled â bod eu prif amcan yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i blant.

Gall Little Lives UK gefnogi eich sefydliad drwy gynnig gwerth hyd at £2,200 o gyllid i chi. Nid oes isafswm ariannol y gallwch wneud cais amdano, a byddwn hefyd yn cefnogi’r gwaith a wnewch trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.

https://www.littlelives.org.uk/our-campaigns/childrens-community-support-programme/


Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru

Mae WCVA yn falch o lansio rownd ariannu 2022/23 ar gyfer Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru. Ar ôl cyflwyno cynllun peilot llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau rownd newydd o gyllid i ariannu gweithredu a arweinir gan y gymuned gan sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol ledled Cymru.

Mae partneriaid Comic Relief a Chymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn cydnabod y gwaith gwych y mae sefydliadau a arweinir gan y gymuned yn ei wneud ledled Cymru ac maent am helpu sefydliadau i feithrin eu gallu eu hunain mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol.

ARIAN AR GAEL

Mae gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru ddwy lefel ariannu:

Grantiau Twf Sefydliadol – £30,000 – £50,000

Wedi’i weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru [CGGC], nod y grantiau ar gyfer twf sefydliadol yw rhoi cyfle i sefydliadau gael effaith strategol a chynyddu gwydnwch, er enghraifft:

Adeiladwch ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich sefydliad

Cryfhewch a mesurwch effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned.

Datblygwch ffyrdd newydd o weithio

I wneud cais am Grant Twf Sefydliadol, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.

 

Gal sefydliadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.