Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Dŵr Cymru Welsh Water

Mae’r Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau roi hwb i’w hymrechion i godi arian i achosion da yn ei hardal leol. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith o’r fath yn digwydd – ac yn codi arian i brosiectau er lles y gymuned – gallech gael eich ariannu am swm hyd at £1,000 gan Ddŵr Cymru.

Cliciwch yma for further information.


Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post 

Cronfa i gefnogi sefydliadau bychain ac achosion da yng Nghymru yw Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post. Mae grantiau o £500 i £20,000 i’w cael.

Gall sefydliadau ymgeisio am ariannu ar gyfer prosiectau neu gostau rhedeg hanfodol, megis cyfleustodau a rhent.

Bydd y rownd gyntaf yn agor ar Chwefror 28ain am 9yb hyd at Fawrth 1af.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.