Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


CYMell

Trwy ein prosiect, CYMell, ein nod yw cefnogi leoliadau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog anghofrestredig i ddod yn gofrestredig ag AGC fel y gallant gefnogi’r iaith Gymraeg. Bydd modd iddynt hefyd gynnig gofal plant mwy fforddiadwy er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i ddychwelyd i’w gwaith neu hyfforddiant, drwy alluogi lleoliadau i gyflenwi’r Cynnig Gofal Plant a  Gofal Plant Di-dreth.

Mae amrediad o hyfforddiant Gwaith Chwarae ar gael gennym, ynghyd ag ariannu â grant a bwrsariaethau i gefnogi lleoliadau sy’n gweithio tuag at gofrestru, gan eu galluogi i dalu costau staff sy’n mynychu hyfforddiant a’r oriau a gymer i weithio tuag at cyflwyno cais i gofrestru a sicrhau cynaliadwyedd y lleoliad. Bydd ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant ymroddedig wrth law gydol yr adeg i gefnogi lleoliadau bob cam o’r ffordd.

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant am wybodaeth bellach

 


 

Ffair Gyllido Torfaen