10.11.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Sefydliad The Ocado Foundation for Good – Ariannu i Bawb
Hyd at £1,000
Y Dyddiad Cau: Rhagfyr 31 2023
Mae Sefydliad Ocado, cangen elusennol Grŵp Ocado, yn cefnogi elusennau, Cwmnïau Budd Cymunedol a phrosiectau cymunedol drwy ddyfarnu grantiau bychain o hyd at £1,000, rhoi nwyddau arbennig yn rhoddion a chynnig help gan wirfoddolwyr. Ni ellir defnyddio’r grantiau ar gyfer cyflogau na chyfleustodau.
Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio eu hymdrechion mewn tri maes craidd:
Sgiliau ar gyfer y Dyfodol:
- Gwella Sgiliau Bywyd Sylfaenol
- Gwella Sgiliau ar gyfer Dysgu yn y Dyfodol
- Cyrchu Cyfrifol: Cefnogwch Gynhyrchion Moesegol a Chadwynau Cyflenwi
Rhaid i geisiadau ddangos sut y maent yn bodoli Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig sef:
- Addysg o ansawdd
- Cyfartaledd Rhywedd
- Gwaith gweddus a thwf economaidd
- Lleihau Anghyfartaleddau
- Defnyddio a chynhyrchu cyfrifol
- Gweithredu ar yr hinsawdd