Dweud Eich Dweud 2024 – yr arolwg gweithwyr gofal cymdeithasol

Dweud eich dweud am weithio ym maes gofal cymdeithasol

Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i hyrwyddo – ei arolwg gweithlu, Dweud eich Dweud, diweddaraf.

Roedd yr arolwg yn gofyn cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, cyflog ac amodau, a’r hyn y mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru ganlyniadau ei arolwg peilot o’r gweithlu cofrestredig. Bydd yr arolwg diweddaraf hwn yn darganfod mwy o wybodaeth am rai o’r themâu a ddaeth i’r amlwg o beilot 2023.

Bydd yr arolwg ar gael ar-lein ac yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Bydd eich ymatebion chi’n ddienw a byddan nhw’n helpu i roi darlun mwy manwl o’r hyn sy’n digwydd yn y sector yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cysylltu â phawb a gofrestrodd â nhw cyn lansiad mis Ionawr. Felly cadwch lygad am e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan. Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i nodi tueddiadau o ran beth mae pobl yn ei feddwl am weithio yn y sector. Byddan nhw hefyd yn helpu i lunio’r cymorth a’r gwasanaethau y mae Gofal Cymdeithasol Cymru a’i bartneriaid yn eu cynnig ac yn tynnu sylw at faterion pwysig i lunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.

I gael gwybod mwy am arolwg gweithlu Dweud Eich Dweud 2024, ewch i gofalcymdeithasol.cymru/dweudeichdweud2024