31.03.2023 |
Mynnwch ddweud eich dweud am Dlodi Plant yng Nghymru
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 4 munud i’w gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru (LlG) yn dechrau ar ei phroses ymgynghori i ddisodli’r Strategaeth Tlodi Plant cyfredol sydd wedi bod yn ei lle ers 2015. Mae teuluoedd wedi bod o dan bwysau ychwanegol oherwydd Covid, a hynny wedi ei ddilyn gan yr argyfwng costau byw. Ar yr un pryd mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi bod o dan bwysau, a bu’n rhaid i ni flaenoriaethu’r hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn gwario arian i gefnogi anghenion brys pobl. Mae llawer o bethau eto y gall Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella bywydau pant a’u teuluoedd o aelwydydd tlawd, ac i leihau tlodi yn y tymor hirach. Yn enwedig pan fyddwn ni oll yn gweithio gyda’n gilydd.