06.01.2023 |
Eich cyfle olaf i wneud cais am hyfforddiant Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae!
Rydym wedi cael estyniad i’n prosiect Cynnydd ar gyfer Llwyddiant ac mae modd i ni gynnig cyfle cyfyngedig iawn o ran amser i gael mynediad a Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio sydd wedi ei ariannu’n llawn.
Mae hwn yn gyfle olaf os ydych chi, eich cydweithwyr neu aelodau o’r staff yn dymuno cael mynediad i’r cwrs uchod; mae cyfyngiad ar ein gallu i ymrestru pobl ar ein cyrsiau terfynol.
Bydd y cyrsiau ar-lein yn dechrau ar Ionawr 16eg, byddant yn rhedeg am 9 wythnos, bydd yr holl waith wedi ei gwblhau erbyn Mawrth 1af a’r cymhwyster llawn wedi ei gwblhau erbyn Mawrth 31ain 2023. Dyma gynnwys y cwrs:
9 sesiwn 2 awr o hyd.
Byddwn yn cynnig dau opsiwn i’r cyfranogwyr ddewis ohonynt, un yn ystod y dydd a’r llall gyda’r nos. Gallwn hyd yn oed gynnig cyrsiau penwythnos i ateb anghenion y sector os bydd digon o ddiddordeb.
A chofiwch roi gwybod inni eich anghenion o ran iaith, gan y gallwn gynnig y cymhwyster hwn yn Saesneg neu’n Gymraeg.
Gofynnwn i chi rannu’r cyfle hwn drwy eich holl rwydweithiau, ac os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru i gwblhau’r cwrs hwn i ddod yn gymwysedig mewn Gwaith Chwarae Lefel 3 cyn Mawrth 31ain 2023 gofynnir i chi ymateb, erbyn 10/1/23 i training@clybiauplantcymru.org gyda’r wybodaeth ganlynol:
- y sir yr ydych y gweithio ynddi
- copi o’ch tystysgrif Level 3 mewn gofal plant, dysgu cefnogol, gwaith ieuenctid neu ysgol goedwig
- p’un ai sesiwn dydd neu noswaith a fyddai orau gennych
- eich iaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg)