21.07.2023 |
Chwarae Cymru – Dyma pam fod Chwarae mor bwysig
Mae Chwarae Cymru wedi datblygu ffilm newydd fer i ddathlu Chwarae Plant yng Nghymru – Dyma pam fod Chwarae Mor bwysig. Gwyliwch yn awr!
Mae gan y ffilm fer ffocws cryf ar leisiau plant ac arddegwyr – maen nhw’n dweud wrthym beth mae chwarae’n ei olygu iddyn nhw. Mae’r ffilm yn cyfleu pam mae chwarae’n hanfodol i ddatblygiad, iechyd, lles a hapusrwydd plant. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau ag oedolion yn myfyrio ar eu hatgof cyntaf o chwarae a sut y gadawodd hynny ei ôl arnynt am weddill eu bywydau.
Comisiynodd Chwarae Cymru y ffilm i ddangos i oedolion sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd – yn ogystal â rhieni a gofalwyr – pa mor bwysig yw chwarae i fywydau plant yng Nghymru, a sut y gallwn ni i gyd gefnogi hynny. Gobeithiwn y bydd y ffilm yn helpu pawb i gydnabod a gwerthfawrogi na allai unrhyw beth fod yn bwysicach i fywydau ein plant na… chwarae.