Diwrnod y Plant – 20fed o Dachwedd

Yr wythnos yma byddwn yn dathlu Diwrnod y Plant (Tachwedd 20fed) ac yma yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs rydym yn eithriadol o frwd ynghylch plant a hyrwyddo’u hawliau.

Cyflwynwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn y DU yn 1989, ei gadarnhau yn 1991, ac yn 2004 fe’i mabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn sail i lunio polisïau perthynol i bant a phobl ifanc.

Mae i’r Confensiwn 54 o Erthyglau – mae erthyglau 1-42 yn amlinellu Hawliau sylfaenol Plant, a 43-54 yn amlinellu dyletswyddau’r llywodraeth, awdurdodau lleol ac oedolion wrth orfodi eu hawliau.

Rydym wedi datblygu Poster Dwyieithog i dynnu sylw at yr erthyglau y credwn sy’n arbennig o bwysig i Waith Chwarae a Gweithwyr Chwarae. Nodwch yr Allweddeiriau sy’n gysylltiedig â phob Erthygl unigol; defnyddiwch yr allweddeiriau Cymraeg hyn fel erfyn yn eich lleoliad i ddatblygu’r iaith Gymraeg.

UNCRC-Articles_Erthyglau-CCUHP.pdf

Download