Cynorthwyon cadw cofnodion ariannol

A oes ffyrdd y gallech wneud eich systemau ariannol yn fwy cadarn ac effeithiol? Mewn Blwyddyn Newydd mynnwch Gychwyn Da!

Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dempledi ac adnoddau lu i Glybiau sy’n aelodau, a allai fod o gymorth, yn enwedig os oes angen i chi ddangos cofnod i wneud cais am ariannu neu fonitro gwariant grant!

Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Templed cofnodi incwm/gwariant Excel misol NEWYDD, a chyfrifiadau wedi’u llenwi ymlaen llaw i’ch helpu
  2. System cofnodi incwm/gwariant wythnosol NEWYDD, gyda thabiau Excel a chyfrifiadau wedi’u llenwi ymlaen llaw i’ch helpu i gadw golwg ar daliadau rheini, balansau sy’n ddyledus a gwariant wythnosol
  3. Templed Anfonebu NEWYDD
  4. Rhagolwg Llif Arian
  5. Gweminar wedi’i recordio ymlaen llaw: Cwblhau Rhagolwg Llif Arian (ar gael ar gais drwy webinar@clybiauplantcymru.org)
  6. Cyfarwyddiadau ar gwblhau rhagolwg llif arian
  7. Templed Cyfrifon Diwedd y Flwyddyn
  8. Gweminar wedi’i recordio ymlaen llaw: Adolygu eich sefyllfa ariannol (ar gael ar gais trwy webinar@clybiauplantcymru.org)
  9. Taflenni ffeithiau (Pwysigrwydd cwblhau cyfrifon diwedd y flwyddyn; a Gwiriad Annibynnol o’r cyfrifon)

Os oes adnoddau/templedi eraill y byddech yn eu cael yn ddefnyddiol, cofiwch gysylltu! Rydym bob tro’n chwilio am ffyrdd ychwanegol o gefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol ar hyd a lled Cymru.