10.05.2023
Poster Yn Yr Ardd
Yn chwilio am ffordd hwyliog ac addysgol i ddathlu Coroniad y Brenin Charles 3ydd yn eich lleoliad gofal plant? Does dim rhaid edrych ymhellach na’n poster dwyieithog ‘Yn yr Ardd’!
Mae ein poster yn dangos lluniau lliwgar o eitemau gardd cyffredin, ynghyd â’r enwau Cymraeg a Saesneg i bob un. Dyma’r erfyn perffaith i ddysgu plant am natur a’r iaith Gymraeg mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, wrth ddathlu coroni Brenin Charles y 3ydd.
Defnyddiwch y poster i enwi’r eitemau yn eich gardd chi, neu gwnewch ef yn rhan o weithgareddau, megis plannu hadau neu wneud celf natur, ar y thema ‘gardd’. Gallech hefyd ei ddefnyddio fel addurn yn ystod partïon gardd neu ddathliadau awyr-agored eraill.
Mae ein poster dwyieithog ‘Yn yr Ardd’ yn adnodd gwerthfawr i unrhyw leoliad gofal plant sy’n awyddus i hyrwyddo dysgu’r iaith Gymraeg, a werthfawrogiad o natur. Felly pam aros? Lawrlwythwch eich poster chi heddiw a dechreuwch ddathlu Coroniad y Brenin Charles y 3ydd yn ddwyieithog!