25.01.2024
Dyma AGPA 2.0, yr Asesiad Gofal Plant Allysgol sy’n gymorth i wella ansawdd
A hoffech chi gefnogaeth bwrpasol i wneud eich gwasanaeth gofal plant y gorau a all fod? Dyma AGPA.
Gwiriad Hunan-Iechyd i’ch busnes gofal plant yw’r AGPA, neu’r Asesiad Gofal Plant All-Ysgol; mae’n cefnogi eich Adolygiad Ansawdd Gofal i Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn eich helpu i weld yr hyn yr ydych yn ei wnued yn dd, a sut y gallwn roi cefnogaeth bwrpasol i chi yn ôl yr angen. Gwyliwch ein fideo cyfarwyddiadau yma
Mae gennym adnoddau a Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant profiadol a gwybodus i gefnogi eich lleoliadau o ran unrhyw fylchau y byddwch yn eu nodi.
Mewngofnodwch i borth y clwb ar ein gwefan Hafan · Porth Dechreuol i gael mynediad at yr AGPA a pheidiwch ag anghofio y gallwch ddiweddaru proffil eich clwb i hysbysebu eich clwb am ddim.