Y Bont Rhifyn Arbennig 2020 – Gwaith Chwarae wedi Covid-19

Gyda chyhoeddi’r arweiniad, Mesurau Diogelu mewn Lleoliadau Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru, a’r newyddion y gall gofal plant baratoi ar gyfer ailagor o Fehefin 29ain ymlaen, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu llu o adnoddau i gefnogi’r sector Gofal Plant Allysgol i’w helpu i adfywio.

Un o’r adnoddau hyn yw ein newyddlen Gwaith Chwarae wedi Covid-19. Yn un o’n harolygon diweddar, adroddodd 77% o Glybiau Gofal Plant Allysgol ar bryder dros sut i ddarparu amgylchedd chwarae o ansawdd o fewn y gofynion ar bellhau cymdeithasol a rheoli haint. I roi sylw i’r pryderon hyn a’u lliniaru, rydym wedi datblygu adnodd cyflawn i leoliadau gofal plant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dod â chyfleoedd chwarae dan amodau pellhau cymdeithasol i blant yn eu lleoliadau pan fyddant yn dychwelyd.

Mynnwch Fynediad Llawn

Mae’r cynnwys hwn ar gael i aelodau’n unig.

Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gael mynediad at gannoedd o’n hadnoddau. Mae aelodaeth yn gwarantu eich mynediad at gynnwys o safon gennym, sydd cael ei lunio’n ddyddiol i'ch helpu I gefnogi’ch clwb.