Cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant yn gwrs dau ddiwrnod, am ddim, a’i fwriad yw darparu gwybodaeth sylfaenol i bobl sydd  diddordeb mewn dechrau gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, er mwyn cynyddu’r nifer o weithwyr gofal plant yng Nghymru.  

Datblygwyd y cwrs mewn ymateb i alw gan Llywodraeth Cymru i gynyddu’r niferoedd hyn. Mae siaradwyr o swyddfeydd PACEY, y Comisiynydd Plant a GyrfaCymru wedi bod yn rhan o’r cyrsiau hyd yn hyn. Caiff y cwrs ei gynnal ar-lein.      

Dyma gipolwg ar gynnwys y cwrs:      

  • beth yw’r blynyddoedd  cynnar a gofal plant?     
  • rolau yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant     
  • rhinweddau a disgwyl-iadau gweithiwr    
  • hawliau plant     
  • lles    
  • arferion plentyn-ganolog 
  • chwarae    
  • diogelu   
  • atal a rheoli heintiau   
  • yr Iaith Gymraeg   
  • arferion proffesiynol   
  • polisi a deddfwriaeth   
  • cymwysterau gofal plant   

   Mae’r cwrs wedi bod yn rhedeg ers mis Medi 2022, gyda thua 115 o bobl wedi cwblhau’r  cwrs erbyn hyn – mae wedi bod yn llwyddiannus iawn!      

Ar ôl cwblhau’r cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant, gall Gofal Cymdeithasol Cymru gyfeirio bobl at GyrfaCymru. Gall GyrfaCymru ddarparu cymorth cyflogadwyedd i helpu pobl i ddechrau eu gyrfa o fewn y sector gofal plant. Gallant eu cyfeirio at amrywiaeth o adnoddau, eu helpu gyda sgiliau cyfweliad a gwaith, eu helpu i ysgrifennu CV, a gallant hefyd eu cyfeirio at swyddi newydd a chyfleoedd i wirfoddoli.        

Dyma linc i’r tudalen Eventbrite lle gall pobl gofrestru er mwyn cwblhau’r cwrs: https://www.eventbrite.co.uk/e/cyflwyniad-i-ofal-plant-introduction-to-childcare-tickets-4145340515077.