09.02.2024 |
Platfform Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru
GWYBODAETH BWYSIG
Tynnwyd ein sylw bod rhai rhieni wedi derbyn neges am eu Gofal Plant Di-dreth drwy neges destun a llythyr gan CThEM.
Mae’r neges hon ar gyfer Lloegr yn unig ac nid yw’n berthnasol i rieni yng Nghymru.
Sylwch na chafodd y neges hon ei chreu gan Lywodraeth Cymru ac nid oeddem yn ymwybodol bod hyn yn cael ei rannu.
Rhannwch hyn gyda’ch rhwydweithiau.
Rydym yn gobeithio datrys y mater hwn cyn gynted â phosibl ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw ddryswch y gallai hyn ei achosi.