19.12.2022 |
Pwysigrwydd Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Mae ysgolion a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn aml yn ganolbwynt i gymunedau lleol, ond, dim ond 23.9%(1) o ddysgwyr sydd mewn addysg cyfrwng-Cymraeg ar hyn o bryd (CYBLD 2021/22)
Mae cymunedau lleol yn ystyried yr ysgol ei hun, a’r gwasanaethau ehangach sydd ar gael ar safleoedd ysgol, rhai megis gofal plant sydd ei angen arnynt yn gefnogaeth, ac i ffynnu fel teulu . Bydd llawer o rieni’n seilio eu dewis o ysgol ar y gwasanaethau ehangach sydd ar gael yno, a beth bynnag fo’r gwerth y byddant yn ei roi ar addysg cyfrwng-Cymraeg, mae’n bosibl y byddant yn ddewis ysgol cyfrwng Saesneg oherwydd y gwasanaethau ychwanegol sydd ganddynt ar y safle.
Mae’n bosibl y bydd gan ysgolion cyfrwng-Cymraeg ddarpariaeth Clych Meithrin ar y safle trwy ddatblygiadau megis rhai Cynllun Sefydlu a Symud (SAS) Mudiad Meithrin, ond mae ar rieni hefyd angen gofal plant wedi 3yh ac yn ystod gwyliau’r ysgol, yn ogystal ag ar gyfer plant hŷn na 7 mlwydd oed; Mae Gofal Plant Allysgol sydd wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn darparu gofal o’r fath a bydd cael y gwasanaethau gofal plant hyn ar safleoedd ysgolion cyfrwng- Cymraeg yn gymorth i fwy o rieni ddewis addysg cyfrwng-Cymraeg a pharhau’n economaidd weithgar.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi gwneud ymarferiad mapio i werthuso’r nifer o ysgolion cynradd cyfrwng-Cymraeg yn erbyn y ddarpariaeth o ofal plant lleol. Mae dros 400(2) o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac eisoes mae gan 164(3) ohonynt ofal plant cyfrwng-Cymraeg, naill ai ar y safle neu yn yr ardal leol gyfagos. Mae angen sylweddol o hyd i sefydlu mwy o Glybiau Gofal Plant Allysgol ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng-Cymraeg ac iddynt gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ar hyn o bryd, nid yw 59(3) o’r 164 (36%) o glybiau gofal plant cyfrwng-Cymraeg presennol wedi’u cofrestru ag AGC, gan adael rhieni’n methu â chael cymorth ariannol na mynediad at y Cynnig Gofal Plant ac mae 95%(3) o’r rhai anghofrestredig wedi eu lleoli ar safleoedd ysgol.
Pam y dylai fod gennych chi Glwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi ei gofrestru ag AGC ar safle eich ysgol?
Nid iaith addysg yn unig mo’r Gymraeg, mae’n iaith fyw a dylid cefnogi plant I’w defnyddio iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae Gofal Plant, ac yn benodol Clybiau Gofal Plant Allysgol, yn darparu amgylchedd addas i blant, a chyfleoedd i chwarae lle bydd yn ddealledig y bydd y Chwarae wedi’i gymell yn gynhenid a’i gyfarwyddo’n rhydd gan y plant.
Mae yna lawer o fanteision i fod â Chlwb Gofal Plant Allysgol sy’n gofrestredig ag AGC, er enghraifft:
- i ddenu teuluoedd i’r ysgol – mae argaeledd darpariaeth gofal plant cofrestredig ag AGC yn ffactor dylanwadol wrth symud tŷ a dewis ysgolion;
- i gefnogi lles meddwl – mae pandemig Covid-19 a Chlybiau Gofal Plant Allysgol wedi effeithio’n andwyol ar blant, ac mae’r cyfleoedd chwarae y maent yn eu darparu yn cefnogi gwydnwch a llesiant meddwl plant;
- er mwyn bod o fudd i blant sy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn yr ysgol gan arwain at fwy o bresenoldeb yn yr ysgol a’r disgyblion yn cyflawni mwy;
- i alluogi teuluoedd i gael cymorth gyda chost ffioedd gofal plant, trwy fynediad at Gredydau Treth neu’r cynllun Gofal Plant Di-dreth, gan leddfu straen ariannol ar deuluoedd a chynyddu cynaliadwyedd y clwb;
Mae’r enghreifftiau hyn yn amlygu pwysigrwydd Clybiau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg sydd wedi’u cofrestru ag AGC o ran cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, er mwyn cynorthwyo’n weithredol i warchod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am agor Clwb Gofal Plant Allysgol neu i gofrestru clwb sy’n bodoli eisoes, gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs eich cynorthwyo drwy’r broses.
Cysylltwch ag un o’n swyddfeydd rhanbarthol:
Swyddfa Ranbarthol Gorllewin Cymru: info-ww@clybiauplantcymru.org
Prif Swyddfa De Dwyrain Cymru: info@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Ranbarthol Gogledd Cymru: info-nw@clybiauplantcymru.org
- https://www.gov.wales/pupil-level-annual-school-census-plasc | https://www.llyw.cymru/cyfrifiad-ysgolion-blynyddol-ar-lefel-disgyblion-cybld
- Local Authority website data | Data gwefan yr Awdurdod Lleol
- Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs data | Data Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs