Dirprwy Arweinydd (Dros Gyfnod Mamolaeth) – Flourish.Cymru, Rhondda Cynon Taf

Dyddiad cau: 05/04/2024

Yn Flourish.Cymru Childcare rydym yn frwd dros ddarparu’r amgylchedd gorau posibl i blant a staff. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn agored, yn feithringar ac yn gefnogol. Mae llwyddiant Flourish.Cymru yn dibynnu ar ei phobl, ac rydym yn chwilio am berson angerddol ac egnïol i ymuno â’n tîm cynyddol ar gyfnod cyffrous o ehangu.   

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol lle rydym yn annog ein staff i ffynnu ochr yn ochr â’n plant. Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad yn y sector gofal plant, sy’n rhannu ein gwerthoedd. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn hyblyg i ddelio â gofynion sy’n newid yn barhaus.  

Oriau: 22.5awr yr wythnos (Ar ddyddiau’r wythnos,yn ystod y tymor, yn ystod oriau ysgol) 

Cyflog: Yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC)  

Cymwysterau / profiad gofynnol: Mae NVQ lefel 3 mewn Gofal, Dysg a Datblygiad Plant (CCLD) yn hanfodol i’n gwasanaeth, byddai cymhwyster mewn Gwaith Chwarae hefyd yn ddymunol. Bydd angen cymwysterau Diogelu a Chymorth Cyntaf Pediatrig. Mae hefyd yn ofynnol i chi gael gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG[DBS]) cyfredol a chludadwy. Mae’r gallu i siarad Cymraeg o safon dda yn hanfodol.  

Disgrifiad o’r dyletswyddau: Cynorthwyo a dirprwyo ar ran yr Arweinydd Gofal Plant i redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd. Creu amgylchedd diogel a meithringar lle gall y plant a’r staff ddatblygu, dysgu a ffynnu yn greadigol ar eu cyflymder eu hunain. 

 Cyfrifoldebau: 

  Gofal a Darpariaeth 

Cefnogi’r Arweinydd Gofal Plant i; 

Ddarparu gofal o safon uchel. 

Creu amgylchedd cyfoethog gyda phrofiadau ysgogol i’r plant. 

Cyfathrebu’n agored ac yn gadarnhaol gyda phlant, cydweithwyr a rhieni ar bob cyfle. 

Cyfathrebu gan ddefnyddio’r Gymraeg gymaint ag sy’n ymarferol bosibl yn ystod y diwrnod gwaith. 

Cefnogaeth i ddatblygu arferion rhagorol. 

Sicrhau cyfle cyfartal i’r holl blant a staff bob amser. 

Dangos hyder a disgresiwn yn gyson wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif a phersonol am blant a’u teuluoedd. 

Goruchwylio’r cynllunio, ac effeithlonrwydd y gweithredu. 

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a Class Dojo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am weithgareddau dyddiol. 

Goruchwylio gweithredu’r dull Gweithiwr-Allweddol effeithiol. 

Hyrwyddo a chadw at holl bolisïau a gweithdrefnau’r cwmni. 

Cynorthwyo i sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol. 

Cwblhau’r holl weithdrefnau a dogfennaeth iechyd a diogelwch yn gywir. 

Cadw cofnodion cywir ar gyfer y plant a’r staff yn unol â’r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data – y GDPR. 

Arwain ar redeg y lleoliad o ddydd i ddydd yn absenoldeb yr Arweinydd Gofal Plant. 

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. 

   

Tîm 

Cefnogi’r Arweinydd Gofal Plant i; 

Ddarparu rheolaeth linell o ddydd i ddydd ar gyfer y tîm, gan gynnwys cynorthwyo gyda’n strwythurau a’n  gweithdrefnau rheoli-perfformiad mewnol. 

Cefnogi’r tîm, gan greu amgylchedd diogel, di-farn er mwyn i’r tîm ffynnu. 

Ysbrydoli ac arwain y tîm trwy ymddygiad cadarnhaol a phroffesiynol. 

Annog rhannu syniadau a chyfranogiad mewn mentrau gan bob cydweithiwr. 

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y tîm. 

  

  Gwasanaeth Cyffredinol 

Cefnogi’r Arweinydd Gofal Plant i; 

Hyrwyddo a hwyluso partneriaethau gyda rhieni, yr ysgol a rhanddeiliaid allweddol eraill. 

Defnyddio llwyfannau cyfryngau 

cymdeithasol a mathau eraill o gysylltiadau 

cyhoeddus i hyrwyddo’r gwasanaeth. 

Cynrychioli’r cwmni mewn ffordd broffesiynol, gyfeillgar a rhagweithiol. 

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes. 

 

Sut i wneud cais: I wneud cais, e-bostiwch eich llythyr eglurhaol a CV at natalie.hughes@flourish.cymru. Yn eich llythyr eglurhaol, dylech fanylu ar eich sgiliau a’ch galluoedd gan gyfeirio at y disgrifiad swydd. 

Cyflwynwch eich cais erbyn 12yh ddydd Gwener y 5ed o Ebrill. 

Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer erbyn diwedd y dydd ar ddydd Mawrth y 9fed o Ebrill. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Natalie Hughes natalie.hughes@flourish.cymru 07517 894272 

 Lleoliad y swydd: CF72 9RP, Rhondda Cynon Taf 

 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board