04/04/2024 |
Gweinyddwr Cyfieithydd Cymraeg, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Caerdydd
Dyddiad cau: 29/04/2024
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn awyddus i lenwi’r swydd ganlynol:
Gweinyddwr Cyfieithydd Cymraeg
- 37 awr yr wythnos
- £24,496 y flwyddyn (£26,421 dderbyn cadarnhad mewn swydd)
Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd (cytundeb gweithio ystwyth yn ei le).
Prif Bwrpas: Cefnogi effeithlonrwydd y Swyddfeydd Cenedlaethol a Rhanbarthol trwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu a gweinyddu effeithlon ac effeithiol, yn cynnwys marchnata a chyfathrebiadau. Bydd ar yr ymgeisydd llwyddiannus angen bod â phrofiad o ddwy flynedd o brofiad cyfieithu, llygad am fanylder a sgiliau creadigol i gefnogi ein marchnata a’n cyfryngau cymdeithasol.
Mae cynigion o gyflogaeth yn amodol ar eirdaon boddhaol, gwiriadau adnabod a gwiriadau’r GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) [os yn gymwys] ar y lefel briodol.
Gwelir ffurflen gais electronig ar https://bit.ly/TMA-APP-0424 – rhaid cyflwyno ceisiadau cyn y terfyn amser ar 29/04/2024.
Gwelir disgrifiad swydd llawn yma https://bit.ly/4ahX6P2
Am gymorth, ffoniwch 029 2074 1000 neu anfonwch e-bost i recruitment@clybiauplantcymru.org
Apply now | Gwnewch gais nawr